|
Mae Antur Cyf. wedi’i leoli yng nghalon gwylltiroedd anturiaethus Cymru. Credwn fod gan unrhyw le yn yr awyr agored antur i’w chynnig, ac yn bwysicach fyth, HWYL! Os ydych chi wedi dod cyn belled â hyn, rydych chi eisoes hanner ffordd i wneud penderfyniad gwych! Gallwn roi cyfle i chi fynd ar ôl antur mor fawr neu fach ag y dymunwch... neu ffordd newydd o brofi a theithio drwy dirwedd hardd Cymru, yr ydym ni yn Antur yn ei hadnabod mor dda. Nid oes llawer o weithgareddau anturiaethus nad ydyn ni’n gwybod amdanynt. Gallwn fynd â chi i Ddringo Creigiau, Cerdded Ceunant, Arfordiro a Cerdded Bryniau i enwi ychydig yn unig! Gallwn gynnig dyddiau gweithgareddau llai confensiynol – mynnwch gip – mae teithiau a thwristiaeth cynaliadwy yn bwysig i ni, felly rydym yn edrych yn gyson i ddatblygu meysydd newydd i’w harchwilio.
Am ffurflenni bwcio/meddygol, cliciwch YMA
Antur Cyfyngedig Mae pob gweithgaredd wedi’i drwyddedu o dan y penawdau:Dringo/Trecio | Cadarnhau gyda’r Cynllun Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALS), Ffôn: 029 2075 5715 |
Cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn un o’n gweithgareddau, a chofiwch ein bod yn gallu darparu ar gyfer yr archwiliwr oddi mewn i chi drwy gydol y flwyddyn; mae’r hyn yr ydych chi’n ei ystyried fel tywydd gwael fel arfer yn meddwl mwy o hwyl i ni! Nid antur a hwyl yn unig gallwn ni eu cynnig, gallwn roi persbectif unigryw i chi o dirwedd gwlad sy’n annwyl i ni. Tirwedd sydd wedi meithrin ein natur anturiaethus, ac sy’n agwedd amlwg yn niwylliant Cymru. Hefyd, ein diwylliant yw ein hangerdd yma yn Antur, a chyda staff sy’n siarad Cymraeg sy’n fwy na pharod i rannu chwedlau a hanesion y llefydd y byddwch yn ymweld â hwy, a bwydlen Gymreig draddodiadol ar gyfer y byrbrydau a’r bwyd gallwn eu darparu fel rhan o’r profiad, rydyn ni’n ffyddiog y byddwch yn cael amser bendigedig! Mae’n ddigon hawdd! Mynnwch gip ar y gweithgareddau, dewiswch un rydych chi’n ei hoffi, cysylltwch â ni a ni fydd yn trefnu’r cyffro, y rhyfeddod a’r harddwch! Gallwn deilwra unrhyw weithgaredd i ddiwallu eich anghenion chi, ffoniwch ni a byddwn yn hapus i drefnu taith i chi. Gall fod yn unrhyw beth o Antur Arfordir Gŵyr i daith dywys gyda’ch cŵn.. |



























