Amdanom Ni
Ein cenhadaeth... Yma yn Antur rydym yn angerddol am yr amgylchedd awyr agored a’n treftadaeth Gymreig. Dyma’r angerdd rydym ni am ei drosglwyddo i bobl sy’n dod i Gymru a threulio amser gydag Antur. Rydym am i bobl sy’n dod i Gymru gael profiad unigryw ac iddynt ymdrwytho eu hunain yn ein hanes a’n diwylliant helaeth wrth gael yr amser gorau posib.
Rydym yn darparu cynnyrch a gwasanaeth o ansawdd uchel mewn amgylchedd unigryw.
![]() |
Arwel Hughes
|
![]() |
Gavin Clifford Rwyf wedi dwlu ar yr amgylchedd naturiol ers gallaf i gofio – treuliais hafau cyfan yn gwersylla ac yn archwilio Penrhyn Gŵyr, gan glywed digonedd o storïau am fôr-ladron, llongddrylliadau a thrysor claddedig. Gafaelodd y cariad hwn at yr awyr agored ynof i – a diolch i fy rhieni, rwyf wedi dwlu arni byth ers hynny. Rwy’n cael fy ysbrydoli gan yr amgylchedd yma, gan greu paentiadau olew a ffotograffau o’r dirwedd yr ydym yn symud ynddyn nhw. Rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i allu defnyddio fy sgiliau i weithio ac i chwarae yn helaeth ledled y DU, Ffrainc, Sbaen, yr Eidal a Slofenia. Os gallaf sicrhau bod pobl yn ein gadael ag ychydig o’r brwdfrydedd sy gyda fi tuag at yr amgylchedd naturiol, mae hi wedi bod yn ddiwrnod da! |
![]() |
Tony Rees Rwy’n dwlu ar yr awyr agored, ac rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl. Felly roedd hi’n gwneud synnwyr fy mod yn gwneud yr hyn rwyf yn ei wneud! Rwyf wedi gweithio fel darparwr addysg awyr agored ledled y DU ers dros 13 mlynedd, a hefyd wedi bod yn ddigon lwcus i allu dringo, caiacio, canŵio, syrffio a mynydda yn y DU a ledled y byd , gan gynnwys Nepal, Awstralia, Iorddonen a ledled Ewrop. Rwy’n ceisio sicrhau bod profiad pawb yn yr awyr agored yn un i’w gofio am byth. Boed yn barti stag neu baratoi ar gyfer asesiad. Eich antur chi yw fy musnes i, ac rwy’n ei gymryd o ddifrif. |
Mae ein staff wedi gweithio fel "staff diogelwch" ar gyfer nifer o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys S4C, Sky News, Pobol Y Cwm, ac yn fwy manwl fel rhan o’r tîm a gynorthwyodd Tony Robinson ar y gyfres "The Worst Jobs in History". Cynorthwyodd ein staff gyda diogelwch ar y safle, y criw camera a Tony ei hun. Cafodd un o’r tîm hyd yn oed weithredu fel ei "ddwbl styntio!"

Mae ein staff wedi helpu gyda chyngor technegol ar 'Pobol y Cwm', ac am ein bod yn siaradwyr Cymraeg, roedd un ohonom yn ddigon ffodus i gael ei ysgrifennu i mewn fel hyfforddwr dringo am y diwrnod! Gall unrhyw un sydd â diddordeb wylio 'Pobol y Cwm' ar ddydd Gwener, 19 Chwefror am 20:00, ac edrychwch am yr het beanie llachar iawn!





