Llwybrau Coedwriaeth

Gwedd newydd ar ein hanturiaethau Cerdded Mynydd yw ein Llwybrau Coedwriaeth; yn gyffredinol maent yn deithiau drwy dirwedd frodorol de Cymru, sy’n cynnwys cyfle i ehangu gwybodaeth a sgiliau coedwriaeth.  Mae’r gweithgaredd hynod ddiddorol hwn yn dal i’n rhyfeddu ni yma yn Antur, ac mae’n gallu denu’r cyfranogwyr i mewn i’r amgylchedd naturiol y maent yn ei archwilio.


Manylion Coedwriaeth
Gall y Llwybrau Coedwriaeth bara ddiwrnod yn unig, neu hyd at dri neu bedwar diwrnod.  Mae’r gweithgaredd yn cynnwys adeiladu lloches, gosod trap, coginio awyr agored a gwneud tân.

Gallwn eich helpu chi i ddatblygu’r sgiliau cyllell i ategu pob agwedd ar goedwriaeth, neu fynd â chi i lefydd lle galwch ddefnyddio a gwella'r sgiliau sydd gennych yn barod.  Gobeithio y bydd y gweithgaredd hwn yn eich helpu chi i feithrin perthynas ddwys â’r dirwedd sydd mor bwysig i ni; mae’n gyfle gwych i brofi golygfeydd anhygoel Cymru o berspectif mwy personol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Mae Cymru yn lleoliad perffaith ar gyfer byw yn yr awyr agored. Mae pob tymor yn cynnig digonedd o adnoddau i’ch cynnal yn llwyddiannus ar eich taith.  Mae technegau amrywiol ar gyfer gwneud tân y gallwn eu dangos i chi, ond y dechneg mae ein cleientiaid yn rhoi’r mwyaf o adborth cadarnhaol amdani yw’r dechneg bwa ac ebill dril.  Mae rhai wedi dweud bod cyfuno harddwch naturiol eithriadol y lleoliad â phrofiad diriaethol eu synhwyrau yn eu cludo’n ôl drwy amser, i gyfnod pan fu eu cyndadau yn crwydro’r ddaear.

Prisiau Coedwriaeth a chynnig arbennig
Dyma’r prisiau ar gyfer ein Llwybrau Coedwriaeth:

  • £35 y person y dydd (£10 dros nos)
  • Disgownt o 10% ar gyfanswm y pris ar gyfer grwpiau o 6 neu fwy!
  • Tocyn Teulu – 2 oedolyn a 2 o blant £100 y dydd (£30 dros nos)

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i’r dudalen Cysylltwch â ni, neu e-bostiwch ni yn Info@anturotdoor.com

Man Lawrlwytho Dogfennau – Cliciwch yma i lawrlwytho unrhyw ddogfennau y mae eu hangen arnoch

Cysylltwch a ni

Ffon: 01639 820 885 | Symudol: 07875 358029 | 07968 900354 | Ebost: info@anturoutdoor.com