Arfordiro
|
Y gweithgaredd mwyaf dynamig sydd i’w gael! Mae’n cynnwys nofio drwy’r tonnau, dringo creigiau serth a neidio o’r brig. Nofio drwy ogofeydd môr, archwilio safnau cul ac arfordir naturiol Penrhyn Gŵyr. Rydym wedi creu fideo i chi gael amcan o beth yw arfordiro a faint o hwyl y mae! Cliciwch yma i weld. Mae ein staff wedi trawsdeithio ac "arfordiro" ar hyd Penrhyn Gŵyr i gyd, maent yn adnabod pob twll a chornel a byddant yn rhoi diwrnod allan llawn hwyl i chi, y gorau i chi ei gael erioed! Ni yw arbenigwyr Arfordiro Gŵyr! Mae’r gweithgaredd hwn yn ddibynnol ar y tywydd - yr hyn rydym yn ei olygu drwy hyn yw bod rhaid ystyried pob agwedd cyn i ni hyd yn oed eich gwasgu i wisg wrth-ddŵr, gan gynnwys amserau a meintiau llanw, meintiau ymchwydd/tonnau a chyfeiriad y gwynt. Mae ffitrwydd yn hollbwysig, oherwydd gallwch fod yn nofio am amser hir, ac am rannau o’r dringo creigiau. Gall y gweithgaredd hwn fod yn hynod gorfforol a chaethiwus! Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar diogelwch arfordiro y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y diwrnod, gan gynnwys helmed, gwisg wrth-ddŵr 5mm a chymorth hynofedd. Gwybodaeth Arfordiro
Ychwanegiad dewisol: Camera gwrth-ddŵr! |
Prisiau Arfordiro a chynnig arbennig Mae Arfordiro yn weithgaredd sy’n bennaf ddibynnol ar y tywydd, a gellir ei gynnal drwy gydol y flwyddyn – ffoniwch yr arbenigwyr am fwy o wybodaeth. Dyma ein prisiau ar gyfer ein diwrnodau arfordiro:
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i’r dudalen Cysylltwch â ni neu e-bostiwch ni yn Info@anturotdoor.com Oherwydd mae arfordiro yn dibynu ar amseroedd llanw uchel cymaint, rydym wedi ddarparu tabl amseroedd llanw i helpi chi dewis dyddiad cyfleis i chi wneud arfordiro ar. Cliciwch yma i weld y tabl amseroedd llanw. |



