Cyrsiau
Tu Mewn Tu Fas
Os ydych chi wedi bod yn dringo dan do ac eisiau symud ymlaen i’r awyr agored, bydd y cwrs hwn yn sicrhau newid diogel a llawn hwyl (gallwn addo hynny!) Byddwn yn edrych ar yr holl sgiliau hanfodol y bydd eu hangen arnoch i ddringo fel rhan o dîm effeithiol yn yr awyr agored go iawn!
Dysgu Arwain 
Os ydych chi wedi bod yn cefnogi teithiau y tu allan ac am fod yn arweinydd, efallai eich bod wedi bod ar ein cwrs cyffwrdd â chreigiau ac am gymryd y cam nesaf. Bydd y cwrs hwn yn dysgu sylfeini bod ar y pen miniog!
Gwella Arwain Dringo
Efallai eich bod wedi bod yn arwain dringo rhywbryd a chael bod eich perfformiad wedi brigo, neu efallai dyma’r tymor yr ydych am bontio’r bwlch a dechrau dringo’r radd nesaf. Efallai eich bod am ailddechrau wedi toriad, yna dyma’r cwrs i chi.
Mae’r cyrsiau diwrnod neu ddeuddydd hyn wedi’u cynllunio i edrych ar eich dringo yn ei chyfanrwydd, gan eich hyfforddi o ran symudiad y corff a rheoli rhaffau a gosod gafaelion.
Dringwr Clogwyni Môr 
Fel cenedl rydym wedi’n hamgylchynu gan y môr. Mae’n ffurfio’r wlad rydym yn byw ynddi. Mae’n ein denu ato. Mae dringo’r morlin cerfluniaidd yn syfrdanol. Mae angen sgiliau da a gwybodaeth gadarn. Mae ein staff wedi dringo o amgylch morlin y DU ers amser maith, ac yn hyddysg yn y sgiliau y mae eu hangen i dreulio diwrnod yn yr amgylchedd dynamig hwn. Beth am ddod gyda ni, mwynhau diwrnod ar ben y clogwyni â golygfeydd panoramig, cwmni da a dringo da! Efallai gwnewch chi ddysgu rhywbeth hefyd!
Clogfeinio a Symudiad y Corff
Mae hwn yn gyflwyniad gwych i symudiadau dringo i ddringwyr newydd. Bydd dringwyr profiadol a medrus fel ei gilydd yn elwa o ddysgu dadansoddi a datblygu sgiliau y gallent fod wedi bod yn eu cymryd yn ganiataol. Mae hwn ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu sylfaen sgiliau gadarn er mwyn gallu symud ymlaen i’r graddau uwch. Mae’n rhoi cyfle i chi adeiladu ‘repertoire’ o sgiliau technegol a fydd yn eich cynorthwyo i ddringo’n fwy llyfn ac effeithlon ar unrhyw fath o lwybr. Byddwch yn dysgu pam fod technegau gwahanol yn gweithio, gan eich galluogi i wella eich sgiliau a’ch dull o fynd i’r afael ag unrhyw broblem y dewch ar ei thraws.
Cwrs Achub Sylfaen
![]() |
Gall dringo fod yn ffordd wych o weld eich ochr orau. Mae’n datgelu eich cryfderau corfforol a meddyliol. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi ychydig o wybodaeth ychwanegol i chi, “offer” ar gyfer eich “blwch offer”. Offer efallai na fyddwch byth yn eu defnyddio, ond os byddwch chi yn eu defnyddio, yna byddwch yn ddiolchgar o fod wedi rhoi cynnig arnynt ymlaen llaw! Mae wedi’i gynllunio helpu i oresgyn rhwystrau anrhagweledig a’u goresgyn yn rhwydd er mwyn datrys y broblem yn gyflym cyn iddi droi’n epig llawn! |
Cwrs Achub Pellach
|
Efallai eich bod wedi mynychu ein cwrs achub sylfaen, er tawelwch meddwl pan fyddwch yn creigio gyda’ch ffrindiau, neu os ydych yn bwriadu mynd i rai o glogwyni anghysbell y DU. Os felly mae’r cwrs hwn yn berffaith i chi. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i roi system ddatrys problemau gadarn i chi sy’n gallu mynd i’r afael â nifer fawr o “faterion” all godi wrth ddringo/fynydda. Theori sylfaenol y cwrs yw symlrwydd. Y gallu i fynd i’r afael â’r materion hyn a dim ond defnyddio’r offer y byddech yn eu cario wrth ddringo. |
Cyflwyniad i Ddringo Aml-ddringen

Efallai i chi fod yn arwain dringo ac am roi cynnig ar rywbeth mwy; efallai i chi fod yn dringo aml-ddringen ac eisiau rhoi trefn ar eich gwaith rhaff; neu mae angen atebion i rai cwestiynau arnoch chi (neu brofi theorïau’n ddiogel); neu rydych chi am fwynhau’r mynyddoedd mewn ffordd wahanol - mae ein cyrsiau ni wedi’u cynllunio gan ystyried eich gallu a’ch anghenion i lunio cwrs wedi’i deilwra i’ch anghenion, disgwyliadau, amser a goblygiadau ariannol chi.
Cyfeiriadu
![]() |
Mae cyfeiriadu yn sgìl mynydd sylfaenol, ac yr un mor bwysig i gerddwyr mynydd ac i ddringwyr. Pan fo’i angen arnoch, mae ei wir angen arnoch! Ond mae hyn fel arfer pan nad ydych yn gallu gweld unrhyw beth o gwbl, neu pan fo’r tywydd mor wael nad ydych chi’n gallu gweld eich llaw o flaen eich wyneb. Felly rydym ni’n cynnal cyrsiau’n gyson sy’n ail-greu’r amodau hyn yn gyfforddus, maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i bobl sydd am wella eu sgiliau cyn tripiau ac asesiadau (Gwobr Hyfforddwr Mynydd ac Arweinydd Mynydd). Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os oes gennych chi ddiddordeb mewn cerdded mynydd, neu os ydych chi’n crwydro yn yr awyr agored. Rydym yn cynnal hyfforddiant cyfeiriadu dydd a nos. |
Cyflwyniad i Sgramblo
Mae sgramblo’n weithgaredd hynod fuddiol sy’n cyfuno'r gorau o gerdded mynydd a dringo creigiau i greu modd gwirioneddol eithriadol o deithio yn y mynyddoedd, yn aml yn cynnig llwybrau llai poblog a mwy o synnwyr o lonyddwch. Mae sgramblo’n llai dwys na dringo creigiau yn unig, ac mae mwy o gyfleoedd i stopio a mwynhau eich amgylchoedd, ac ystyried yr her nesaf.
Sgramblo Pellach
Efallai i chi fynychu ein cwrs cyflwyniad i sgramblo, neu eich bod yn awyddus i symud o radd 1 i radd 2, i dir mwy technegol ar ôl darganfod pa mor gyffrous y gall sgramblo fod.
Mae’r cwrs hwn yn edrych yn fwy penodol ar y math o dir y byddwch yn dod ar ei draws ar bob gradd, a pha heriau y gallwch eu disgwyl ar dir mwy technegol gradd 3. Byddwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o ba git sy’n hanfodol a sut i’w ddefnyddio’n effeithiol; cewch hefyd gipolwg o sut i gael eich hun allan o drafferth os bydd angen
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ar gyfer tir gradd 3 a sut i fynd i’r afael â’r math hwn o dirwedd yn ddiogel ac yn hyderus a’i mwynhau; mae anturiaethau i’w cael yn ddifrif!
Gweithdai Dringwyr Diogel
Os ydych am fod yn hen ddringwr profiadol yn y pendraw, yna mae RHAID i chi fod yn ddringwr ifanc, dibrofiad DIOGEL; mae ein gweithdy dau ddiwrnod wedi’i gynllunio gan ystyried eich profiad a’ch gwybodaeth gyfredol. Gallwn wella arnynt!
Fel mae’n digwydd, byddwch yn astudio yn ne Cymru, cartref rhai o glogwyni môr dringo gorau’r BYD!!!!
Bydd y cwrs deuddydd yn mynd i’r afael â’r holl hanfodion diogelwch i sicrhau dechrau/datblygiad diogel a hwylus i’ch antur dringo.
Cyrsiau Paratoi 
Yma yn Antur rydym yn ymwybodol o ba mor anodd gall cwblhau unrhyw NGB fod, rydym ni wedi bod yno! Gallwn eich cynorthwyo i ddatblygu a pharatoi ar gyfer nifer o gyrsiau hyfforddi ac asesu NGB, gan gynnwys; WGL, ML, NAS, SPA a MIA.
Achub Bywyd Syrffio
![]() |
![]() |
|
![]() |
Achubwr Bywydau Traeth Safon Achub Cenedlaethol (NARS) ac Achubwr Bywydau Syrffio yw’r safonau achub bywyd cyffredinol y mae eu hangen arnoch i gynnal gweithgareddau mewn lleoliadau arfordirol, neu i weithio fel achubwr bywyd ar unrhyw draeth. Mae’r hyfforddiant yn gwrs dwys wythnos, a hynny’n gorfforol ac yn feddyliol. Yna profir yr holl hyfforddiant a chyfnerthiad i’r eithaf yn ystod asesiad un diwrnod. Ffordd boblogaidd o gynnal yr hyfforddiant hwn yw bloc wythnos, gyda’r asesu ar ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cynnal cyrsiau “hollt” lle’r ydym yn defnyddio blociau nosweithiau a phenwythnosau hyfforddiant i gydweddu â’ch anghenion.
![]() |
Mae Antur hefyd yn cynnig gwasanaethau pwrpasol i bobl sydd wastad wedi eisiau cwblhau llwybr creigiau clasurol, trawsdeithio cefnau enwog, sgramblo a phedolau ceffyl gogledd Cymru a’r tu hwnt. Mae croeso i chi gysylltu â ni am fanylion. |







