Dug Caeredin

Mae Antur yn darparu hyfforddiant ac alldeithiau ar gyfer pob cynllun gwobr Dug Caeredin (GDC), o efydd i aur.  Gall rhieni grwpiau ysgol sy’n gwneud eu GDC gyda ni fod yn dawel eu meddwl o ran y gofal a gymerir i sicrhau bod y gweithgareddau mor ddiogel â phosib.

Nid yw hyn yn golygu nad oes elfen o risg yn glwm wrth y gweithgareddau anturus rydym ni’n eu darparu.  Bydd ein staff cymwys a phrofiadol yn darparu gwybodaeth ac yn hysbysu’r cyfranogwyr ynghylch teithio drwy’r amgylchedd naturiol maen nhw’n rhyngweithio ag ef, a rhoi profiad iddyn nhw na fyddant yn ei anghofio fyth!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ewch i Cwestiynau Cyffredin.    

Sut mae’r Cynllun yn gweithio: 

Am wybodaeth fanylach, ewch i: www.dofe.org 

Fodd bynnag, yn syml, mae pedair elfen i wobr Dug Caeredin, neu bump ar gyfer y wobr Aur. Dyma nhw:

Gwirfoddoli – rhaid i gyfranogwyr wneud gwaith gwirfoddol i gynllun cymunedol neu elusennol, neu ryw weithgaredd gallant brofi sydd o fudd i’w cymuned. 

Corfforol - y cwbl mae’r adran hon yn ei gynnwys yw bod y cyfranogwr yn mynd yn actif mewn rhyw ffordd, mae hefyd yn sicrhau fod gan y cyfranogwr lefel ffitrwydd sylfaenol dda yn barod ar gyfer yr alldaith!

Sgiliau – gall y cyfranogwr ddewis sgìl y mae ganddynt ddiddordeb ynddo a’i ddatblygu a’i wella 

Alldaith - dyma le mae Antur yn camu i mewn, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyfranogwyr i gyflawni’r elfen hon ar y wobr.  Rydym yn hyfforddi’r cyfranogwyr ac yn eu goruchwylio ar bob agwedd ar yr hyfforddi, a’u paratoi ar gyfer eu halldaith asesiad terfynol.  Hefyd ni sy’n goruchwylio, ac fel arfer yn asesu’r alldaith derfynol. 

Preswyl (Aur yn unig) – mae’r adran hon yn golygu bod y cyfranogwr yn treulio wythnos oddi cartref yn cyfrannu mewn gweithgaredd neu brosiect gyda phobl nad ydynt erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen

 

Rhestr Cyfarpar Alldaith:

Mae’r rhain yn eitemau y mae’n rhaid i bob cyfranogwr eu cael ar gyfer yr alldaith – pob cyfranogwr yn ddieithriad! 

  • Map
  • Cwmpawd
  • Oriawr
  • Tortsh pen a bwlb a batri sbâr
  • Blwch Cymorth Cyntaf (un rhwng dau)
  • Chwiban
  • Arian/cerdyn ar gyfer ffôn (a/neu ffôn symudol yn ddewisol)
  • Llyfr nodiadau a phen/pensil
  • Siwmper/sweter sbâr
  • Cot/siaced wrth-ddŵr, trowsus gwrth-ddŵr
  • Potel(i) dŵr llawn
  • Cerdyn Diogelwch Alldaith o’r Pecyn Llyfr Cofnod a rhifau ffôn cyswllt Goruchwyliwr a chyswllt Cartref mewn argyfwng
  • Dillad twym ychwanegol, gan gynnwys penwisg a menig (dewisol ar gyfer Efydd ac Arian)
  • Bag ‘bivvy’/bag poli mawr
  • Bwyd ar gyfer y diwrnod a dognau bwyd mewn argyfwng

Mae un darn o gyfarpar nad ydym wedi’i restru eto, ac nad yw’n cael ei werthfawrogi’n llawn fel arfer.  SANAU!  Prynwch sanau o ansawdd uchel sydd wedi’u gwneud o wlân.  Byddwch yn cerdded llawer gyda sach deithio drwm, felly byddwch yn falch o fod wedi gwario arian ychwanegol arnynt.

Byddwn ni yn darparu rhai o’r eitemau hyn, ond cyfrifoldeb y cyfranogwr unigol yw sicrhau bod ganddo/i bob eitem ar y rhestr hon ar gyfer pob alldaith.  

Man Lawrlwytho Dogfennau – Cliciwch yma i lawrlwytho unrhyw ddogfennau y mae eu hangen arnoch

 

 

Cysylltwch a ni

Ffon: 01639 820 885 | Symudol: 07875 358029 | 07968 900354 | Ebost: info@anturoutdoor.com