Gwasanaethau Brys
Mae Gavin yn aelod llawn amser o Dîm Cefnogaeth Tiriogaethol Heddlu De Cymru. Mae’n gwybod pa mor anodd a straenus gall rôl y gwasanaethau brys fod. Mae’n defnyddio ei amser yn yr awyr agored – boed yn neidio o raeadrau, dringo mynyddoedd, bod o dan ddaear neu allan yn tynnu ffotograffau i helpu i ddileu straen ei swydd bob dydd. Mae hyn yn ei adfywio’n barod ar gyfer y sifftiau nesaf!
Beth am ymuno ag Antur, dod i leddfu’r straen ac adfywio eich hun gydag un o’n gweithgareddau lu!
Mae Antur Cyf. yn falch o allu cynnig gostyngiadau pellach i grwpiau llawn o bobl sy’n dod o amrywiaeth o Wasanaethau Brys, er enghraifft, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Ambiwlans, Gwylwyr y Glannau ac RNLI ledled y DU.
Cysylltwch â ni am fanylion llawn.


