Cwestiynau Cyffredin a Dolenni
|
A: E-bostiwch ni ar Info@anturoutdoor.com a byddwn yn ateb cyn gynted â phosib, byddwch yn amyneddgar oherwydd rydym yn treulio LLAWER o’n hamser y tu allan ac i ffwrdd o ffonau a chyfrifiaduron!
A: Ewch i’n tudalen Blog a Gwybodaeth, cewch yr holl wybodaeth angenrheidiol am ddigwyddiadau’r wythnos hon a’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau sydd ar y gweill.
A: Mae gan Antur Cyf. drwydded AALA. Dyma’r awdurdod sy’n gyfrifol am sicrhau bod rheoliadau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac anturiaethus yn cael eu gorfodi. Heb y drwydded byddai’n anghyfreithlon i ni ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc o dan 18 oed. Rydym yn gweithredu gweithdrefn asesu risg dynamig a chadarn ac mae’r holl staff wedi’u hyfforddi i safon uchel i sicrhau eu bod yn gymwys i arwain grwpiau yn y gweithgareddau rydym ni’n eu darparu. Mae’r holl staff wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf ac mae gennym bolisi amddiffyn plant cadarn ac mae’r holl staff wedi cael gwiriad SCT cyn iddynt weithio i ni.
Am fwy o wybodaeth am AALA a rhaglen Gwobr Dug Caeredin, ewch i dudalen Dolenni ein gwefan.
A: Yn gyntaf, Cysylltwch â ni, a gallwn drefnu dyddiad ar gyfer eich gweithgaredd, yna bydd angen ffurflen bwcio wedi’i chwblhau a blaendal er mwyn ei gadarnhau. Yn olaf, mae angen ffurflen ganiatâd meddygol ar gyfer pob aelod o’r grŵp a thaliad llawn cyn y gallwn fynd â chi ar antur. Sylwer, heb ffurflen ganiatâd meddygol ni allwn fynd â phobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd. Gellir e-bostio neu bostio’r ffurflenni hyn atom yn ôl eich dewis
A: Mae ein ffurflenni i gyd ar dudalen Blog a Gwybodaeth ein gwefan, neu defnyddiwch y dolenni yma: Ffurflen Bwcio; Ffurflen Bwcio Dug Caeredin; Ffurflen Ganiatâd Meddygol; Ffurflen Ganiatâd Meddygol Rhiant/Gwarcheidwad.Cliciwch ar y ddolen i agor y ddogfen, cadwch hi yn eich ffolder 'fy nogfennau', a naill ai eu hargraffu, eu cwblhau a’u postio neu e-bostio atom.
A: Ydyn, trïwch y Bryn Betws Byncws neu'r Afan Lodge. Mae bwyd ardderchog ganddynt a gwely a brecwast neis iawn. Mae bar â le tân agored yn y ddau, gallwch hefyd fwynhau diod haeddiannol wrth y tân ar ôl eich antur! Mae’r llefydd yma yn boblogaidd, felly ewch i wefan Croeso Cymru hefyd am fwy o lety yn yr ardal.
|
Dolenni Defnyddiol
Sefydliadau Partner
MLTE
BMC
AMI
BCU
NCS
NARS
IOL
MOUNTAIN EQUIPMENT
TIKI
PEAK UK
FACEBOOK
YOU TUBE
ANIMOTO
Cyfeillion Gweithgareddau Awyr Agored www.pellennig.com - syrffio a beicio mynydd yng Ngogledd Cymru www.welshadvenutres.com - hyfforddiant cyrff llywodraethu cenedlaethol (NGB) a syrffio yn Ne Cymru. |



