|
Ydych chi’n cofio pan oeddech chi’n blentyn?
Ydych chi’n cofio rhywun yn dweud wrthych am beidio â chwarae yn yr afon? Am beidio â chael eich hun yn wlyb, yn fwdlyd neu’n frwnt?
Wel dyma antur llawn hwyl, ac mae’n sicr o ryddhau’r plentyn ym mhawb!
Mae ardal De Cymru yn enwog am y math hwn o weithgaredd, ac mae’r dirwedd naturiol yn addas iawn ar ei gyfer oherwydd miliynau o flynyddoedd o ffurfiant naturiol – sy’n berffaith ar gyfer y gweithgaredd hwn. Mae’r gweithgaredd hwn yn cyfuno dŵr a chreigiau, ac yn defnyddio pob cyhyr yn eich corff ac yna’n darganfod rhai newydd!
Gwybodaeth Cerdded Ceunant Mae Cerdded Ceunant yn derm arall a ddefnyddir ar gyfer sawl gweithgaredd tebyg, gan gynnwys sgramblo tagellau, rhedeg afon a cheunantio. Fodd bynnag, mae "ceunantio" wedi dod o’n brodyr Ewropeaidd lle mae eu cyrsiau dŵr yn llawer mwy serth ac yn defnyddio rhaffau a thechnegau abseilio – y cyfan a wnawn yw neidio!
Yn syml, mae’n golygu teithio ar hyd system afon – naill ai i fyny neu i lawr y llif drwy gerdded, llithro, nofio, neidio ac ymgodymu â’r rhwystrau naturiol a gynigir gan yr amgylchedd. Gallwn neidio i byllau mawr o lefel y dŵr hyd at 25 troedfedd!
Rydym yn defnyddio nifer o systemau afon ar hyd ymyl ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gellir eu teilwra er mwyn diwallu eich anghenion unigol chi.
Bydd y diwrnod yn cynnwys trawsdeithio ar hyd wyneb creigiau, hopian creigiau, sgramblo o amgylch stepiau creigiau, llithro i lawr llithradau i byllau creigiau dwfn a nofio’r dyfroedd gwyllt. Sgramblo i fyny rhaeadrau, i lawr rhaeadrau, trwy raeadrau ac oddi ar raeadrau!
Byddwn yn darparu’r holl gyfarpar diogelwch cerdded ceunant y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y diwrnod, gan gynnwys helmed, gwisg wrth-ddŵr 5mm a chymorth hynofedd.
Mwy o wybodaeth: Bydd angen i chi ddod â rhai eitemau personol gyda chi, gan gynnwys:
- Dillad isaf thermol chwaraeon neu fflîs cnu i’w wisgo o dan eich gwisg wrth-ddŵr
- Gwisg nofio
- Esgidiau â gwadnau da sy’n cynnal y pigwrn a sanau twym!
- Tywel
- Newid dillad llwyr, gan bwysleisio llwyr, o’ch pen i’ch sawdl!
- Pecyn bwyd a fflasg o unrhyw ddiod dwym, a digon o hylifau eraill o’ch dewis chi
- Unrhyw feddyginiaeth bersonol rydych chi’n ei chymryd ar hyn o bryd, yn enwedig y rheini sy’n dioddef o asthma
Ychwanegiad dewisol: Camera gwrth-ddŵr!
Os yw cerdded drwy raeadrau, neidio oddi ar raeadrau a sarnau i byllau dyfnion, llithro i lawr gylïau serth ac archwilio ogofeydd bychan yn eich difyrru chi, beth am ymuno â ni!?
|
Dyma’r prisiau ar gyfer ein diwrnodau Cerdded Ceunant
- £50 yr oedolyn y dydd
£40 y plentyn y dydd (o dan 16 oed)
- Disgownt o 10% ar gyfanswm y pris ar gyfer grwpiau o 6 neu fwy!
- Tocyn Teulu – 2 oedolyn a 2 o blant £120 y dydd
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i’r dudalen Cysylltwch â ni neu e-bostiwch ni yn Info@anturotdoor.com
Man Lawrlwytho Dogfennau - Cliciwch yma i lawrlwytho unrhyw ddogfennau y mae eu hangen arnoch
|