Cerdded Mynydd

Y mwyaf amrywiol o’n gweithgareddau!


Mae ein pecynnau cerdded mynydd yn amrywio o deithiau diwrnod i leoliadau mwyaf hardd ac anghysbell Cymru.  Byddwn hyd yn oed yn cario îsl a chynfas i chi a darparu hyfforddiant peintio olew; neu gallwn drefnu allteithiau tridiau yn rhoi gwir ddealltwriaeth i chi o fyw yn yr awyr agored, gan roi cyfle i’ch grŵp berffeithio eu sgiliau coedwriaeth. Rydym hefyd yn rhoi cyfle i chi ddod â’ch cŵn gyda chi am yr antur!


Mae croeso i’ch holl ffrindiau pedair coes ar ein halldeithiau cerdded mynydd.


Gwybodaeth Cerdded Mynydd
Mae ein holl hyfforddwyr/tywyswyr yn gyfarwydd iawn â mynyddoedd a bryniau Cymru.

Yn llawn chwedlau a llên gwerin, maent oll yn storïwyr ardderchog ac yn hapus i rannu hanes a diwylliant yr ardaloedd y byddwch yn ymweld â hwy.  Mae’n ffordd wych o weld y wlad a chewch amser i feithrin eich cysylltiadau eich hun â’r wlad swynol hon.

Rydym yn cynnal sesiynau cyfeiriadu hefyd, ddydd a nos, ym mhob tywydd, unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Prisiau a chynnig arbennig  

Dyma’r prisiau ar gyfer ein diwrnodau Cerdded Mynydd:  
  • £35 y person y dydd (£10 dros nos) 
  • Disgownt o 10% ar gyfanswm y pris ar gyfer grwpiau o 6 neu fwy!  
  • Tocyn Teulu – 2 oedolyn a 2 o blant £100 y dydd (£30 dros nos)    

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i’r dudalen Cyslltwch â ni neu e-bostiwch ni yn Info@anturoutdoor.com


Man Lawrlwytho Dogfennau – Cliciwch yma i lawrlwytho unrhyw ddogfennau y mae eu hangen arnoch

 

Cysylltwch a ni

Ffon: 01639 820 885 | Symudol: 07875 358029 | 07968 900354 | Ebost: info@anturoutdoor.com