Anturiaethau Creigiau

Mae ein diwrnodau anturiaethau creigiau yn hynod amrywiol, boed hynny’n filltiroedd o deithio i fyny ac i lawr neu hyd yn oed o gwmpas clogwyni anhygoel arfordir Penrhyn Gŵyr, neu ymlacio ar draeth diarffordd wrth i’ch plant bach wneud yr hyn y maent orau yn ei wneud – o dan hyfforddiant ein hyfforddwyr cymwys

Efallai yr hoffech chi brofi hyfrydwch Bannau Brycheiniog, mewn ffordd wahanol iawn, gan fwynhau golygfeydd diddiwedd o fan ffafriol ar ben chwarel neu frigiad creigiog.  Yna abseilio yn ôl i lawr y rhaff i chwilio am heriau pellach.

Manylion Anturiaethau Creigiau
Gyda’n staff profiadol a chymwys, gallwch ddod o hyd i beth bynnag rydych chi’n edrych amdano yma yng Nghymru.

Byddwn yn cynllunio gweithgaredd ar lefel ac mewn lleoliad sy’n cydweddu â’ch anghenion personol chi; mae hyn yn tueddu i sicrhau bod y diwrnodau gweithgaredd hyn yn rhai i’w cofio, i sgwrsio ac i chwerthin amdanynt i bawb am flynyddoedd i ddod.


Gallwn gynnig sesiynau wedi’u teilwra o gyflwyniad sylfaenol i’r math yma o chwaraeon i hyfforddi penodol, symudiad corff, clogfeinio a mynydda.

Mae’r prisiau ar gyfer ein diwrnodau Anturiaethau Creigiau fel a ganlyn:

  • £50 yr oedolyn y dydd
  • £40 y plentyn y dydd (o  dan 16 oed)
  • Disgownt o 10% ar y pris llawn ar gyfer grwpiau o 6 neu fwy!
  • Tocyn Teulu – 2 oedolyn a 2 o blant £120 y dydd

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i’r dudalen Cyslltwch â ni neu e-bostiwch ni yn Info@anturotdoor.com

Man Lawrlwytho Dogfennau –
Cliciwch yma i lawrlwytho unrhyw ddogfennau y mae eu hangen arnoch

Cysylltwch a ni

Ffon: 01639 820 885 | Symudol: 07875 358029 | 07968 900354 | Ebost: info@anturoutdoor.com