Ysgolion
Croeso i’n tudalen arbennig i ysgolion! Gall Antur gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau ac addysg awyr agored llawn hwyl i’ch ysgol. Mae’n bosib ein bwcio ar gyfer diwrnodau antur unigol, megis Cerdded Ceunant ac Arfordiro, neu gyrsiau cynyddol yn cynnwys Dringo Creigiau a Cherdded Mynydd, er enghraifft.
Mae gan Antur drwydded yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgaredd Antur (AALA), mae ein holl staff yn gymwys dros ben ac wedi cael datgeliad manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol, ac mae Antur wedi cael clod uchel fel darparwr gweithgareddau antur i grwpiau ysgolion, a gallwch fod yn sicr bod eich holl anghenion addysgol a diogelwch wedi’u sicrhau.
Rydym yn gallu darparu cyfnodau/camau hyfforddiant alldeithiau cynlluniau Dug Caeredin, gan gynnwys pob gwobr; Aur, Arian ac Efydd, o’r hyfforddiant cychwynnol tan yr alldaith asesu.
Mae’r partneriaethau yr ydym ni wedi eu ffurfio hyd yn hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, oherwydd rydym wedi gweithio gydag ysgolion sydd â’r nod o gyflwyno cwricwlwm amrywiol a chynyddol, a rhoi profiadau addysgol holistig i’w disgyblion tra’n cadw staff ar gael ar gyfer rheolaeth bob dydd yr ysgol.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig i grwpiau ysgolion
Addysg Eithafol yw Antur....


